Prudential
Prudential yw ein darparwr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) mewnol o ddewis. I gael rhagor o wybodaeth am fanteision talu CGY, neu i ddechrau cyfrannu neu newid y cyfraniadau, ewch i’w gwefan:
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim a sefydlwyd gan y Llywodraeth. Mae’n cynnig cyngor a chanllawiau ar wella’ch sefyllfa ariannol, adnoddau a chyfrifianellau, a chymorth dros y ffôn ac ar-lein.
Diduedd
Mae Unbiased.co.uk yn rhoi’r cyfle i chi chwilio am gynghorwyr ariannol annibynnol sy’n gymwys ac yn rheoledig.
Pension Wise
Mae Pension Wise yn wasanaeth a sefydlwyd gan y Llywodraeth sy’n cynnig arweiniad diduedd am ddim ynglŷn ag opsiynau pensiwn diffiniedig.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS) yn sefydliad annibynnol nad yw’n gwneud elw sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim ynghylch sbectrwm eang pensiynau, gan gynnwys cynlluniau’r wladwriaeth, cwmni, personol a rhan ddeiliad.
Y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau
Mae’r Gofrestrfa Cynllun Pensiwn yn wasanaeth i helpu pobl i olrhain hawliau pensiwn coll.
Aelodau’r CPLlL
Mae’r CPLlL yn rhan werthfawr o’r pecyn cyflog a buddion i weithwyr sy’n gweithio i’r llywodraeth leol neu’n gweithio i gyflogwyr eraill sy’n rhan o’r Cynllun ac mae’n cael ei ystyried fel un o’r buddion ariannol mwyaf gwerthfawr o’r swydd.
Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn cynnal gwefan sy’n amlinellu manteision y cynllun a sut mae buddion pensiwn yn cael eu cyfrifo. Mae’r safle yn cynnwys cyfrifianellau defnyddiol.
Rheoliadau’r Cynllun
Mae modd cyrchu Rheoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Canllawiau Gweinyddu ac Arweiniad Actiwaraidd drwy fynd i:
Direct Gov
Gwybodaeth am bensiwn y wladwriaeth a chynllunio ar gyfer eich ymddeoliad.
Yr Ombwdsmon Pensiynau
Mae’r Ombwdsmon Pensiynau’n sefydliad annibynnol a gafodd ei sefydlu yn unol â’r gyfraith i ymchwilio i gwynion ynghylch sut y mae cynlluniau pensiwn yn cael eu cynnal. Mae gan yr Ombwdsmon Pensiynau bwerau cyfreithiol i wneud penderfyniadau sy’n derfynol, sy’n rhwymo ac y mae modd eu gorfodi mewn llys barn. Mae’r gwasanaeth am ddim.
Y Rheolydd Pensiynau
Y Rheolydd Pensiynau sy’n rheoli cynlluniau pensiwn yn y gwaith yn y Deyrnas Unedig. Mae’n gweithio gyda chyflogwyr a’r rheiny sy’n cynnig pensiynau fel bydd modd i bobl gynilo’n ddiogel ar gyfer eu hymddeoliad.