Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Oes modd i mi gynyddu fy muddion?

Mae sawl ffordd y gallwch chi gael rhagor o fuddion ar ôl ymddeol drwy dalu mwy o arian i gynyddu’ch pensiwn.

Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)

Fe gewch chi ddewis prynu pensiwn ychwanegol hyd at uchafswm o £8,344 drwy dalu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol. Mae modd i chi gyfrifo’r gost o brynu pensiwn ychwanegol drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell ar wefan CPLlL 2014, y gallwch chi ei chyrchu yma. Cewch chi ddewis nifer y blynyddoedd rydych chi eisiau prynu’r pensiwn ychwanegol drostyn nhw a dewis un ai i dalu cyfraniadau rheolaidd neu gyfraniad untro. Os ydych chi’n dewis talu cyfraniadau rheolaidd o’ch cyflog, y cyfnod talu lleiaf yw blwyddyn. Os ydych chi o fewn blwyddyn o ddyddiad eich Pensiwn y Wladwriaeth, yna, rhaid i chi dalu cyfraniad untro. Mae modd gwneud taliad untro o’ch cyflog, neu’n uniongyrchol i Gronfa Pensiwn RhCT. Os ydych chi’n talu’n uniongyrchol, bydd angen i chi hawlio’r rhyddhad ar drethi yn ôl ar y cyfraniad drwy’r broses hunanasesu. Darllenwch yr wybodaeth, a’r telerau ac amodau (sydd wedi’u paratoi yn rhan o’r amcanbris) yn ofalus.

Os ydych chi yn adran 50/50 o’r cynllun, chewch chi ddim prynu pensiwn ychwanegol, ond bydd modd i chi brynu pensiwn coll yn ôl.

Byddwch chi dim ond yn cael prynu buddion pensiwn ychwanegol ar eich cyfer chi – fydd pensiwn dibynyddion ddim yn daladwy ar unrhyw Gyfraniadau Pensiwn Ychwanegol sy’n cael eu talu.

Bydd y pensiwn ychwanegol rydych chi’n ei brynu yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn mewn rhandaliadau cyfartal dros nifer y blynyddoedd rydych chi wedi penderfynu prynu’r pensiwn ychwanegol. Os byddwch chi’n talu’r cyfandaliad, bydd swm y pensiwn i gyd yn cael ei ychwanegu.

Cyn bwrw’r maen i’r wal, cofiwch y gall talu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol effeithio ar eich Lwfans Blynyddol a’ch Lwfans Gydol Oes a golygu y byddwch chi’n atebol i dalu taliadau treth atodol. Os ydych chi am ofyn cwestiwn am hyn, ffoniwch Ddesg Gymorth Cronfa Bensiwn RhCT.

Bydd y gyfrifiannell yn rhoi amcanbris a ffurflen gais i chi. Bydd gofyn i chi anfon copi o’r ffurflen gais at eich cyflogwr a bydd eich cyflogwr yn ei blaenyrru i Gronfa Bensiwn RhCT. Os bydd y cais yn cael ei dderbyn, bydd eich cyflogwr yn dechrau’r didyniadau ar ddechrau’r cyfnod talu nesaf.

Efallai bydd y Gronfa Bensiwn yn gofyn i gael prawf meddygol a chael adroddiadd meddygol gan ymarferydd meddygol cofrestredig (os bydd gofyn i chi wneud hyn, chi fydd yn gyfrifol am unrhyw gostau) ac fe all wrthod y cais i dalu Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol.

Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)

Ein darparwyr pensiwn mewnol yw Prudential. Os dechreuwch chi dalu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol ar ôl 1af o Ebrill 2014, yna, fe gewch chi dalu hyd at 100% o’ch cyflog, ar ôl didyniadau statudol ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol. Chi fydd yn penderfynu faint rydych chi eisiau’i dalu – un ai canran neu swm penodol. Rhowch wybod i Prudential a byddan nhw’n dweud wrth eich cyflogwr am ddechrau gwneud didyniadau o’ch cyflog. Byddwch chi’n cael rhyddhad treth o wneud Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (fel sy’n wir am eich cyfraniadau arferol), felly bydd pob cyfraniad gros o £100 yn costio £80 i drethdalwr ar raddfa sylfaenol, neu £60 i drethdalwr ar raddfa uwch.

Newidiodd y rheoliadau ym mis Mai 2018 i ganiatáu i aelodau a ddechreuodd dalu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol cyn 1 Ebrill 2014 dalu 100% o'u cyflog fel Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol hefyd. Cyn mis Mai 2018, 50% o'r cyflog oedd yr uchafswm.

Oherwydd bod y cyfraniadau yma yn cael eu talu i Prudential, bydd gyda chi bolisi yn eich enw chi, a byddwch chi’n cael dewis ble bydd y cyfraniadau yma’n cael eu buddsoddi.

Mae modd i chi weld gwefan CPLlL Prudential yma {Prudential}. Ar y dudalen yma, bydd modd i chi gyfrifo faint byddwch chi’n fforddio ei dalu a faint bydd e’n costio i chi. Mae gwybodaeth hefyd am y dewisiadau cronfa gwahanol sydd ar gael.

Pan fyddwch chi’n ymddeol, fe gewch chi gymryd peth o’ch cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, neu’r cyfan ohoni, fel cyfandaliad di-dreth (yn amodol ar gyfyngiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi).

Cosbau Gadael Cynllun Pensiwn Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)

Yn weithredol o 03 Rhagfyr 2018

Gan ddechrau 3 Rhagfyr 2018, bydd cwmni Prudential yn terfynu ffioedd ymadael ym mhob achos.  Cyn y dyddiad yma, roedd aelodau a oedd yn cael mynediad at eu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol o fewn 3 blynedd o'u cyfraniad cyntaf yn talu ffi ymadael o 1%.

Opsiynau Eraill

Mae’n bosibl talu i mewn i gynlluniau pensiwn eraill hefyd, sydd ddim yn rhan o’r CPLlL, er enghraifft, pensiynau personol neu bensiynau cyfranddeiliaid. Mae buddion y mathau yma o gynllun yn dibynnu ar swm y cyfraniadau a’r enillion ar fuddsoddiadau. Mae’n annhebygol y byddai’ch cyflogwr yn cyfrannu, a byddwch chi’n agored i’r risgiau sy’n gysylltiedig â buddsoddi.

Dydy Cronfa Bensiwn RhCT ddim wedi’i chofrestru i roi cyngor ariannol – dim ond gwybodaeth ffeithiol y caiff ei rhoi. Efallai y byddwch chi am gael cyngor ariannol annibynnol cyn gwneud penderfyniad – Cliciwch yma.