Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Gadael cyn ymddeol

Bydd y buddion y bydd hawl gyda chi i’w cael yn dibynnu ar ba pryd ymunoch chi â’r cynllun ac am ba hyd y buoch chi’n rhan o’r cynllun (mae’r gwasanaeth yn cynnwys trosglwyddiadau i mewn a chyfnodau eraill o aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol).

Bydd y gronfa yn ysgrifennu atoch chi yn fuan ar ôl i chi adael i gadarnhau’ch opsiynau, a rhoi gwybod i chi beth i’w wneud nesaf.

 Os ydych chi wedi bod yn aelod o CPLlL am lai na 2 (mae hyn yn cynnwys aelodaeth â Chronfeydd eraill – nid dim ond Cronfa RhCT) :

  • Bydd modd i chi gael ad-daliad o’ch cyfraniadau heb dreth, a’r gost o’ch ail-sefydlu i mewn i Ail Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth (S2P) os yw hynny’n berthnasol.
  • Bydd modd i chi drosglwyddo’ch buddion i ddarparwr pensiynau arall.

Os ydych chi wedi bod yn aelod am fwy na 2 flynedd, neu rydych chi wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun:

  • Bydd modd i chi adael eich buddion hyd nes eich bod chi’u heisiau nhw
  • Bydd modd i chi drosglwyddo’ch buddion i ddarparwr pensiynau arall

Tudalennau yn yr adran yma