Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Rhannu Pensiwn ar ôl Ysgaru

Os dechreuoch chi gamau ysgaru ar 1 Rhagfyr 2000, neu ar ôl hynny, mae hawl gan y llysoedd orchymyn inni rannu gwerth eich buddion pensiwn adeg ysgaru – dyna ystyr Rhannu Pensiwn. Mae hyn yn golygu bod toriad clir.

Bydd y Llys yn gorchymyn bod gwerth eich buddion pensiwn yn cael ei rannu yn ôl canran. Bydd eich buddion pensiwn yn cael eu gostwng trwy ddebyd pensiwn, a bydd eich cyn-bartner yn derbyn credyd pensiwn. Bydd y debyd pensiwn yn cael ei nodi ar eich cofnod pensiwn a bydd y swm yn cael ei dynnu o'ch pensiwn adeg talu'ch pensiwn. Mae modd i'r credyd pensiwn naill ai aros yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a bod cofnod yn cael ei gychwyn yn enw'r cyn-bartner, neu'i drosglwyddo i bolisi darparwr pensiwn arall sydd gan eich cyn-bartner.

Mynnwch gopi o'r Ffeithlen Pensiynau ac Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil 

Pan mae cyfreithwyr o'r naill ochr neu'r llall mewn ysgariad neu gamau dirymu yn gofyn am wybodaeth, mae rhaid i'r Gronfa Bensiwn ei chyflwyno hi. Mae tâl i'w godi am gyflwyno'r wybodaeth yma, ac mae modd cael rhagor o wybodaeth am hyn trwy ffonio'r wifren gymorth bensiynau.