Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Gwybodaeth Gyffredinol

Fel aelod blaenorol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, byddwch chi wedi cronni buddion yn y cynllun a chaiff y rhain eu cadw gan y Cynllun tan y byddan nhw’n daladwy – mae hyn yn cael ei alw’n fudd gohiriedig.

Mae’r buddion yma’n cynnwys pensiwn blynyddol ac os oeddech chi’n aelod o’r cynllun cyn 1 Ebrill 2008, gyfandaliad di-dreth ynghyd â’r opsiwn i droi peth o’ch pensiwn yn arian parod di-dreth ychwanegol. Tra’u bod yng ngofal y cynllun llywodraeth leol, bydd y buddion yma’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddiwyr.

Byddwn ni’n anfon Cyfriflen Buddion atoch chi bob blwyddyn a fydd yn dangos gwerth eich budd gohiriedig. Bydd y gyfriflen yma ar gael ar Fy Mhensiwn Ar-lein oni bai eich bod chi’n eithrio o’r gwasanaeth.