Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pryd Alla i Dderbyn Fy Muddion?

Os ydych chi'n aelod gohiriedig o'r gronfa ac yn hŷn na 55 oed, neu bron â bod yn 55 oed, efallai eich bod chi'n ystyried opsiynau ar gyfer eich ymddeoliad. Mae ein gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein yn eich galluogi chi i amcangyfrif eich buddion pensiwn ar gyfer unrhyw ddyddiad rhwng eich pen-blwydd yn 55 oed a'ch pen-blwydd yn 75 oed. Mae'r cyfrifianellau yn ystyried pob un o'ch cyfnodau o gyflogaeth â phensiwn ac yn cyfrifo cynrychiolaeth deg o'r buddion y mae'n bosibl y byddwch chi'n eu derbyn gan ddefnyddio'r wybodaeth gyfredol sydd yn ein cofnod ar eich cyfer chi. Mae eich buddion wedi'u cyfrifo hyd at derfyn eich cyflogaeth a bydd y manylion yn cael eu rhannu â chi drwy'r post. Bob blwyddyn, mae eich Pensiwn Gohiriedig yn cynyddu yn ôl y Cynnydd Pensiynau. Bydd y cyfrifianellau ar-lein yn defnyddio gwerth cyfredol eich buddion pensiwn (gan gynnwys unrhyw ychwanegiadau perthnasol rhwng dyddiad olaf eich cyflogaeth a dyddiad heddiw). Bydd eich pensiwn yn parhau i gynyddu bob mis Ebrill hyd at ddyddiad hawlio eich pensiwn ac ar ôl hynny.

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru â'r gwasanaeth fy Mhensiwn Ar-lein, mae modd i chi gael mynediad at y cyfrifianellau drwy'r tudalennau Buddion Pensiwn a Chyfrifianellau Pensiwn. Os nad ydych chi wedi cofrestru â'r gwasanaeth, cofrestrwch yma - https://www.mypensiononline.rctpensions.org.uk/?locale=cy-GB

Ymddeol ar sail afiechyd

Does dim isafswm oedran ar gyfer talu buddion gohiriedig oherwydd afiechyd. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr blaenorol chi gytuno i ryddhau eich buddion chi’n gynnar, yn seiliedig ar wybodaeth gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol. Os ydych chi'n credu fod hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â ni a byddwn ni'n cysylltu â'ch cyn gyflogwr i drefnu archwiliad meddygol.