Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Lwfansau Treth

Treth Incwm

Mae eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn drethadwy, ond telir eich cyfandaliad yn ddi-dreth. Mae p’un a ydych yn talu treth pan fyddwch yn ymddeol yn dibynnu ar faint eich pensiwn a’ch amgylchiadau personol.

Bydd y Gronfa’n hysbysu Cyllid a Thollau EM eich bod yn derbyn eich pensiwn a chewch god treth newydd. Os nad yw eich cod treth yn hysbys ar unwaith, bydd cod dros dro yn cael ei ddefnyddio tan i ni dderbyn y wybodaeth gywir.

Os ydych am holi am eich cod treth, cysylltwch â’ch swyddfa dreth leol.

Eich Swyddfa Dreth Leol

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am eich treth, dylech gysylltu â’r swyddfa dreth, gan ddyfynnu’ch rhif Yswiriant Gwladol.

Cyllid a Thollau EM
Ardal De Cymru
Tŷ Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5YA
Ffôn: 0845 300 0627

Beth yw’r Lwfans Blynyddol?

Y Lwfans Blynyddol yw’r swm y gall gwerth buddion pensiwn unigolyn gynyddu mewn unrhyw flwyddyn (y Cyfnod Mewnbwn Pensiwn) heb orfod talu tâl treth dros ben. Pennir y swm hwn gan y Trysorlys ac fe’i gostyngwyd o £255,000 i £50,000 ar 6 Ebrill 2011 a’i ostwng eto yn 2014/15 i £40,000. Dangosir gwerth eich cynilion pensiwn bob blwyddyn ar eich Datganiad Buddion Blynyddol fel y Swm Mewnbwn Pensiwn.

Os ewch chi’r tu hwnt i’r terfyn hwn mewn unrhyw flwyddyn a bod tâl treth yn ddyledus, gallwch dalu’r tâl treth yn uniongyrchol i CThEM neu, os yw’r tâl dros £2,000, gallwch ofyn i’r cynllun dalu’r dreth ar drostynt yn gyfnewid am ostyngiad yn eu buddion pensiwn. Rydych chi’n gyfrifol am roi gwybod i CThEM trwy’ch ffurflen dreth hunanasesu os ydych yn agored i dâl treth.

Sut fydd y Lwfans Blynyddol nas defnyddiwyd yn gweithio?   

Os yw’r cynnydd yn eich buddion pensiwn yn fwy na’r Lwfans Blynyddol mewn Cyfnod Mewnbwn Pensiwn, gallwch chi ddwyn ymlaen unrhyw lwfans nas defnyddiwyd o’r tair blynedd flaenorol. Mae hyn i atal tâl treth sy’n deillio o unrhyw gynnydd sydyn yng ngwerth buddion pensiwn o ganlyniad i gynnydd mewn cyflog er enghraifft.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffi Lwfans Blynyddol i’w weld ar wefan CThEM trwy glicio yma neu ddarllen Taflen Ffeithiau LG sydd i’w gweld yma  http://www.lgpsregs.org/resources/guidesetc.php 

Bydd y Gronfa Bensiwn yn ysgrifennu atoch os ydych chi wedi mynd y tu hwnt i’r Lwfans Blynyddol.

Enghraifft 

Roedd buddion pensiwn unigolyn ar gyfer 2016/17 yn £70,000 ac felly £30,000 yn uwch na’r lwfans blynyddol o £40,000.

Erbyn hyn gall yr aelod nawr gario gostyngiad yn y dreth ymlaen o’r tair blynedd flaenorol gan ddechrau gyda’r hynaf yn gyntaf:  

BlwyddynCynnydd mewn buddion pensiwnTax ReliefGostyngiad nas defnyddiwydCarry forward

2015/16

 

(Ail PIP Rhan

o Flwyddyn)

£15,000

£40,000

£25,000

£25,000

2015/16

(PIP Cyntaf

Rhan o

Flwyddyn)

£18,000

£80,000

£68,000

£68,000

2014/15

£32,000

£40,000

£8,000

£8,000

2013/14

£48,500

  £50,000

£1,500 

£1,500 

Nawr gall yr aelod ddefnyddio’r gostyngiad nas defnyddiwyd o 2013/2014, 2014/2015 a’r Ail PIP Rhan o Flwyddyn i wrthbwyso’r tâl dros ben.

Er mwyn pennu faint o dreth sydd i’w dalu, mae angen cynnwys y tâl dros ben sy’n uwch na’r Lwfans Blynyddol ym mhroses Hunanasesu Treth CThEM.

Dewis i’r Cynllun Dalu

Unwaith y bydd y tâl treth wedi’i bennu, gallwch ddewis gwneud i’r Gronfa Bensiwn dalu rhywfaint neu’r cyfan o’u hatebolrwydd ffioedd lwfans blynyddol ar eu rhan allan o gynilion pensiwn yr unigolyn, cyhyd ag y bodlonir rhai amodau.

I fod yn gymwys, rhaid i’r twf yn eich buddion yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn y flwyddyn dreth berthnasol fod yn fwy na £40,000 a rhaid i swm y Tâl Lwfans Blynyddol rydych yn atebol amdano ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol fod yn fwy na £2,000. Yn gyfnewid am hyn, bydd gostyngiad priodol yn eich buddion pensiwn yn y cynllun.

Os ydych am gwblhau Ffurflen Dewis i’r Cynllun Dalu cliciwch yma

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud y dewis yw 31 Gorffennaf yn y flwyddyn yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’r tâl treth yn dod yn ddyledus ynddi. Felly, ar gyfer tâl treth a gododd ar gyfer 2016/17, mae angen i chi ddewis erbyn 31 Gorffennaf 2018.

Byddwn yn cydnabod bod eich dewis wedi’i dderbyn a’i gofnodi. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o fewn mis, cysylltwch â’n Desg Gymorth Pensiynau

Beth yw’r Lwfans Oes?

Gelwir uchafswm y buddion pensiwn y gall unigolyn eu cronni yn ystod eu hoes heb orfod talu tâl treth yn Lwfans Oes (LO). Pennir y terfyn gan y Trysorlys ac ar gyfer 2017/2018 mae’n £1 miliwn.

Mae unrhyw fuddion pensiwn mewn cynlluniau pensiwn cofrestredig yn cyfrif tuag at y lwfans oes. Mae hyn yn cynnwys Cronfeydd Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol (Annibynnol a Mewnol), pensiynau personol a phensiynau personol grŵp, pensiynau rhanddeiliaid, contractau blwydd-dal ymddeol, hawliau a gedwir mewn cynlluniau galwedigaethol eraill, pensiynau sydd eisoes yn cael eu talu a chredydau pensiwn sy’n deillio o setliadau ysgariad.

Bob tro y byddwch yn tynnu buddion o drefniant pensiwn ar ôl 5 Ebrill 2006, dylai’r darparwr pensiwn ddweud wrthych pa ganran o’r lwfans oes a ddefnyddir.

Pan ddewch chi’n gymwys i dderbyn buddion pensiwn, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth eich darparwr pensiwn faint o lwfans oes sydd wedi’i ddefnyddio eisoes.
Os yw cyfanswm gwerth eich hawliau pensiwn yn fwy na’r lwfans oes, bydd gofyn talu tâl treth ar eich hawliau pensiwn - yn ogystal â chymhwyso treth incwm fel arfer.

Cliciwch http://www.lgpsregs.org/resources/guidesetc.php am Daflen Ffeithiau Lwfans Oes.

Gan fod y Lwfans Oes wedi newid, mae CThEM wedi cyflwyno amddiffyniadau ar gyfer aelodau cynlluniau pensiwn –

Diogelwch Unigol 2016 (IP2016)

Gallwch wneud cais am Ddiogelwch Unigol 2016 o 6 Ebrill 2016 ymlaen os oes gennych gynilion pensiwn sy’n werth dros £1 miliwn (gan gynnwys ystyried buddion blaenorol sy’n cael eu talu eisoes) ar 5 Ebrill 2016. Fodd bynnag, os oes gennych ddiogelwch sylfaenol neu ddiogelwch unigol 2014 ni allwch wneud cais am IP2016.

Mae IP2016 yn rhoi lwfans oes gwarchodedig sy’n gyfwerth â gwerth eich hawliau pensiwn ar 5 Ebrill 2016 – hyd at uchafswm cyffredinol o £1.25 miliwn. Ni fyddwch yn colli IP2016 drwy wneud arbedion pellach i’ch cynllun pensiwn ond bydd dâl lwfans oes yn ddyledus ar unrhyw gynilion pensiwn sy’n fwy na’ch lwfans oes gwarchodedig.

Diogelwch Sefydlog 2016 (FP2016)

Gallwch wneud cais am Ddiogelwch Sefydlog 2016 o 6 Ebrill 2016 ymlaen os ydych chi’n disgwyl i’ch cynilion pensiwn fod yn fwy na £1 miliwn (gan gynnwys ystyried buddion blaenorol sy’n cael eu talu eisoes) pan fyddwch yn mynd ati i’w cymryd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016. Gall FP2016 gael ei ddefnyddio i helpu i leihau neu liniaru’r ffi lwfans oes.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddiogelwch Lwfans Oes CThEM ar Daflen Ffeithiau LG neu wefan CThEM.

https://www.gov.uk/guidance/pension-schemes-protect-your-lifetime-allowance.cy

Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi’n ansicr a ddylech wneud cais am Ddiogelwch, gallwn ddarparu rhagor o wybodaeth am eich buddion pensiwn yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ond mae’n faes hynod gymhleth ac ni fydd y Gronfa Bensiwn yn gallu dweud wrthych a yw Diogelwch yn addas i chi.

Bydd eich penderfyniad yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a da o beth fyddai siarad â chynghorydd terfynol.