Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Beth sydd angen i mi'i wybod?

Sut y telir y pensiwn?

Fel arfer, bydd pensiynau’n cael eu talu i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu bob mis. Mae hyn yn helpu i osgoi unrhyw bosibilrwydd o oedi ac yn sicrhau bod y credyd yn cyrraedd eich cyfrif ar y diwrnod y mae’r taliad yn ddyledus.

Byddwch yn derbyn nodyn talu cychwynnol os yw’ch pensiwn yn cael ei dalu i’ch cyfrif.

Os ydych chi’n symud dramor, byddwn ni’n talu’ch pensiwn i mewn i fanc neu gymdeithas adeiladu yn y DU. Sicrhewch, felly, nad ydych chi’n cau’ch cyfrif.

Sut y telir fy Nghyfandaliad?

Telir eich cyfandaliad â siec a bydd y taliad yn cael ei wneud yn fuan ar ôl eich diwrnod olaf mewn cyflogaeth, cyn belled â’ch bod yn dychwelyd yr holl ffurflenni a thystysgrifau angenrheidiol.

Dylech gael Cyngor Ariannol Annibynnol ynglŷn â buddsoddi eich cyfandaliad.

Cyfeirnod Pensiwn

Fel pensiynwr, byddwch wedi derbyn cyfeirnod pensiwn unigryw, a bydd angen i chi ddyfynnu’r cyfeirnod hwn os ydych chi’n cysylltu â ni. Gallwch ddod o hyd i’r rhif hwn ar eich llythyr hysbysiad o fuddion neu ar eich slip tâl pensiwn ar y ffurf ganlynol:

Rhif Cyflogres

Rhif Tâl

9*

******

Pryd y telir y pensiwn?

Os 098 yw’ch cyflogres pensiynwr, bydd eich pensiwn yn cael ei dalu ar y diwrnod gwaith olaf o’r mis.

Os 099 yw’ch cyflogres pensiynwr, bydd eich pensiwn yn cael ei dalu ar yr 16eg o’r mis (neu’r diwrnod gwaith agosaf cyn hynny).

Cyfloglenni

Byddwch chi dim ond yn cael cyfloglen ym mis Mawrth, Ebrill a Mai bob blywddyn fydd yn dangos unrhyw gynnydd yn eich buddion pensiwn. Serch hynny, byddwn ni hefyd yn anfon cyfloglen atoch chi os bydd y pensiwn yn newid o fwy na £1 o’i gymharu â’r mis blaenorol.

P60

Byddwch chi’n cael P60 ym mis Mai bob blwyddyn, sy’n dangos swm y pensiwn sydd wedi’i dalu a’r dreth sydd wedi’i didynnu yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol.

Fy Mhensiwn Ar-lein

Ar ôl i chi ddechrau cael eich pensiwn, bydd modd i chi gofrestru ar gyfer Fy Mhensiwn Ar-lein. Mae’r gwasanaeth yma’n eich galluogi chi i weld eich cyfloglenni a’ch P60 yn electronig. Bydd modd i chi newid eich cyfeiriad, eich manylion banc neu’ch enwebiadau hefyd.

Cofrestru cyfrinair

Mae cofrestru cyfrinair unigryw gyda’r Gronfa Bensiwn wrth ymddeol yn galluogi aelodau i roi gwybod i ni am newidiadau mewn amgylchiadau personol heb orfod darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig.

Byddwch yn cael cyfle i fanteisio ar y gwasanaeth hwn pan fyddwch yn derbyn eich pecyn ymddeol neu gallwch gysylltu ‘r Gronfa Bensiwn am ffurflen.

Manylion Gofynnol

Rhif Yswiriant Gwladol

Dyddiad Geni

Cyfenw Eich Mam Cyn Priodi

Cyfrinair (rhwng 7 ac 16 llythyren)