Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Adran 50/50

O 1 Ebrill 2014 ymlaen mae dwy adran i’r cynllun pensiwn - y brif adran a’r adran 50/50.

Mae’r adran 50/50 yn caniatáu i chi dalu hanner y cyfraniadau a chronni pensiwn ar hanner y gyfradd arferol. Rhaid i chi ddewis gwneud hyn trwy lenwi ffurflen y gallwch ei chael gan eich cyflogwr.

Mae cyfrifiannell cyfraniadau ar wefan CPLlL 2014 a fydd yn dangos i chi faint y bydd eich cyfraniadau’n newid os ydych am symud o un adran i’r llall ac mae yna gyfrifiannell pensiwn a fydd yn dangos yr effaith ar eich buddion pensiwn.

Os ydych chi’n symud i adran 50/50 y cynllun, ni fydd yn effeithio ar eich yswiriant bywyd na’ch yswiriant afiechyd a byddant yn parhau ar yr un lefel ag y maent yn y brif adran.

Bwriad yr adran 50/50 yw bod yn opsiwn tymor byr felly cewch eich ail-gofrestru yn ôl ym mhrif adran y cynllun bob tair blynedd. Bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd hyn yn digwydd – fodd bynnag gallwch benderfynu symud o adran i adran eto trwy roi gwybod i’ch cyflogwr.

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun yn y Canllaw Aelodau sydd ar gael gan unrhyw un o’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan neu o’r Adran Bensiynau.