Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ymddeoliad ar y Gorwel

Os ydych chi'n aelod gweithgar o'r gronfa ac yn hŷn na 55 oed, neu bron â bod yn 55 oed, efallai eich bod chi'n ystyried opsiynau ar gyfer eich ymddeoliad. Mae ein gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein yn eich galluogi chi i amcangyfrif eich buddion pensiwn ar gyfer unrhyw ddyddiad rhwng eich pen-blwydd yn 55 oed a'ch pen-blwydd yn 75 oed. Mae'r cyfrifianellau yn ystyried pob un o'ch cyfnodau o gyflogaeth â phensiwn ac yn cyfrifo cynrychiolaeth deg o'r buddion y mae'n bosibl y byddwch chi'n eu derbyn, gan ddefnyddio'r wybodaeth gyfredol sydd yn ein cofnod ar eich cyfer chi. Sicrhewch fod manylion eich cyflogaeth yn gywir a bod eich cyfartaledd cyflog gyrfa wedi'i adbrisio (CARE) a Chyflog Terfynol sy'n cael eu defnyddio yn y cyfrifiadau'n gywir. Bydd ein cyfrifianellau ar-lein yn defnyddio manylion unrhyw ddidyniadau neu ychwanegiadau sydd wedi'u cyfrifo yn erbyn eich buddion pensiwn ar gyfer pob dyddiad sy’n berthnasol.

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru â'r gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein, mae modd i chi gael mynediad at y cyfrifianellau drwy'r tudalennau Buddion Pensiwn a Chyfrifianellau Pensiwn. Os nad ydych chi wedi cofrestru â'r gwasanaeth, cofrestrwch yma - https://www.mypensiononline.rctpensions.org.uk/?locale=cy-GB