Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Beth fydd yn digwydd os bydda i'n marw tra rydw i'n gweithio?

Grant Marwolaeth

Os byddwch chi’n marw tra rydych chi’n gweithio, yn aelod gweithredol o’r cynllun, a chyn eich pen-blwydd yn 75 oed, bydd grant marwolaeth sy’n dair gwaith eich cyflog yn daladwy.

Mae modd i chi enwebu person i gael y grant marwolaeth drwy lenwi a dychwelyd Ffurflen Enwebu ar gyfer Grant Marwolaeth.

Ni all y Gronfa fod yn gyfreithiol-rwym gan enwebiad ac mae’n rhaid cadw disgresiwn llwyr o ran pwy sy’n derbyn taliadau, ond bydd yn gwneud pob ymdrech i gadw at eich dymuniadau lle bo’n ymarferol gwneud hynny.

Pensiwn Goroeswr

Os byddwch chi’n marw, bydd pensiwn ar gyfer eich gŵr gweddw / gwraig weddw, partner sifil cofrestredig, neu, gan ddibynnu ar amodau cymhwysol penodol, eich partner cymwys sy’n byw gyda chi. Dyma sut mae’r pensiwn yn cael ei gyfrifo:

  • ar gyfer aelodaeth ers 1 Ebrill 2014 hyd at ddyddiad eich marwolaeth, mae’r pensiwn taladwy yn 1/160 o’ch cyflog pensiynadwy a enilloch chi

ynghyd â

  • 49/160 o swm unrhyw bensiwn sydd wedi’i gredydu i’ch cyfrif pensiwn yn dilyn trosglwyddo’ch hawliau pensiwn

ynghyd â

  • pension sy’n hafal i 1/160 o’ch tâl pensiynadwy tybiedig ar gyfer pob blwyddyn o aelodaeth y byddech chi wedi’i gronni o ddyddiad eich marwolaeth hyd at eich oedran pensiwn arferol

Mae pensiwn partneriaid sy’n cyd-fyw yn cael ei gyfrifo yn yr un modd ond dim ond aelodaeth ers 6 Ebrill 1988 all gael ei chymryd i ystyriaeth (oni bai eich bod chi, cyn 1 Ebrill 2014, wedi dewis prynu’n ôl peth o’ch aelodaeth – neu’r cyfan ohoni – fel ei bod hi’n cyfri tuag at y cyfrifiad yma).

Mae’r pensiwn yn parhau i fod yn daladwy am weddill bywyd pensiwn eich gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw, a bydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â’r fynegai costau byw briodol.

Partner sy’n byw gyda chi

I fod yn bartner sy’n cyd-fyw cymwys, rhaid i chi fod wedi bodloni’r meini prawf canlynol am o leiaf 2 flynedd:

  • mae’r ddau ohonoch chi yn rhydd i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil,
  • rydych chi’n byw gyda’ch gilydd fel gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil,
  • does yr un ohonoch chi yn byw gyda thrydydd person fel gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil, a,
  • rydych chi’n ddibynnol (neu’n gyd-ddibynnol) yn ariannol ar eich gilydd.

Pensiwn i Blant

Mae Pensiynau i Blant yn daladwy i blant sydd o dan 18 oed, neu o dan 23 oed os ydyn nhw mewn addysg amser llawn o hyd. Gall pensiwn i blant fod yn daladwy i blentyn ar ôl iddo droi’n 23 oed os, cyn troi’n 23 oed, daeth yn anabl yn gorfforol neu feddyliol, ac, ym marn yr Ymarferydd Meddygol Annibynnol Cofrestredig, mae’r nam yn debygol o fod yn barhaol, ac roedd y person yn ddibynnol ar yr aelod cynllun ar ddyddiad y farwolaeth oherwydd y nam corfforol neu feddyliol.

Os na fydd pensiwn sy’n daladwy i’r gŵr, gwraig, partner sifil neu’r partner sy’n cyd-fyw, bydd unrhyw  bensiynau sy’n daladwy i blant dibynnol yn cael eu cynyddu.