Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Iechyd Gwael

I fod yn gymwys i ymddeol oherwydd iechyd gwael, rhaid i chi fod wedi bod yn aelod o’r cynllun am o leiaf dwy flynedd, neu fod wedi trosglwyddo gwerth i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Yn ogystal â hynny, rhaid i’r ddau amod yma gael eu bodloni:

  • rhaid eich bod chi’n barhaol analluog i gyflawni dyletswyddau eich galwedigaeth arferol yn effeithiol oherwydd iechyd gwael neu lesgedd sy’n ymwneud â’r meddwl neu’r corff, ac
  • o ganlyniad i’r iechyd gwael neu’r llesgedd corff neu feddwl, dydych chi ddim yn gallu ymgymryd â chyflogaeth yn syth

 Os ydych chi o’r farn bod hyn yn berthnasol i chi, bydd angen i chi gysylltu â’r Adran Adnoddau Dynol. Byddan nhw, yn y lle cyntaf, yn eich atgyfeirio chi i Ymarferydd Meddygol Cofrestredig eich cyflogwr / Meddyg Cronfa Bensiwn, os ydyn nhw o’r farn bod hyn yn briodol. Byddwch chi wedyn yn cael eich asesu a bydd y meddyg yn penderfynu a ydych chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer iechyd gwael. Bydd y meddyg, hefyd, yn argymell lefel eich dyfarniad i’ch cyflogwr. Eich cyflogwr wedyn fydd yn penderfynu lefel y dyfarniad, os bydd un yn cael ei roi, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd wedi’i chael gan yr Ymarferydd Meddygol Cofrestredig.

Mae tair haen i’r dyfarniad:

Haen 1 – Os penderfynir ei bod hi’n anhebygol y byddwch chi’n gallu ymgymryd â swydd gyflogedig cyn eich oedran pensiwn arferol, bydd eich pensiwn yn cael ei gynyddu. Bydd y swm sy’n cael ei ddyfarnu yn adlewyrchu’r pensiwn y byddech chi wedi’i gael pe byddech chi wedi aros yn y cynllun tan eich oedran pensiwn arferol.

Haen 2 – Os penderfynir ei bod hi’n anhebygol y byddwch chi’n gallu ymgymryd â swydd gyflogedig arall cyn pen 3 blynedd i adael eich swydd, ond ei bod hi’n debygol y byddwch chi’n gallu cael gwaith cyflogedig cyn cyrraedd eich oedran pensiwn arferol, bydd eich pensiwn yn cael ei gynyddu 25% o’r dyfarniad yn Haen 1.

Haen 3 – Os penderfynir ei bod hi’n anhebygol y byddwch chi’n gallu ymgymryd â swydd gyflogedig cyn pen 3 blynedd i adael eich swydd, neu cyn eich oedran pensiwn arferol, yna, fydd eich pensiwn ddim yn cael ei gynyddu ond fydd eich buddion ddim yn cael eu gostwng yn sgîl eu talu’n gynnar. Bydd y pensiwn yn cael ei dalu am hyd at 3 blynedd ac fydd e’n dod i ben os ydych chi’n ymgymryd â swydd gyflogedig unwaith eto. Mae’n bosibl bydd hyn yn cael ei adolygu ar ôl 18 mis.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Os ydych chi’n anfodlon ar y penderfyniad sydd wedi’i wneud gan eich cyflogwr, mae’r hawl gyda chi i apelio o dan y Weithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol.

Rhaid i apeliadau gael eu cyflwyno mewn ysgrifen cyn pen 6 mis i ddyddiad penderfyniad eich cyflogwr a rhaid iddyn nhw gael eu hanfon at y person sy’n cael ei enwi gan eich cyflogwr.

I gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch gopi o’r Ffeithlen Iechyd Gwael, neu gysylltu â’r Gronfa Bensiwn.

Tudalennau yn yr adran yma