Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pryd caf i ymddeol?

Fe gewch chi ymddeol ar yr amser arferol, yn gynnar neu’n hwyr.

Os ymunoch chi â’r CPLlL ar ôl mis Ebrill 2014, bydd angen i chi fod wedi gwasanaethau am o leiaf 2 flynedd (gan gynnwys unrhyw hawliau pensiwn sydd wedi’u trosglwyddo) i fod yn gymwys ar gyfer buddion pensiwn.

Ymddeol ar yr amser arferol

Mae Oedran Ymddeol Arferol CPLlL 2014 yn unol â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (ond rhaid i chi fod o leiaf 65 oed). Disgwylir i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth newid felly bydd oedran ymddeol arferol y CPLlL yn newid hefyd. Fe gewch chi weld beth fydd eich Oedran Ymddeol Arferol drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell yma: www.gov.uk/calculate-state-pension.

Ymddeol yn gynnar

Rhaid i chi fod o leiaf 55 oed cyn ymddeol. Serch hynny, os dewiswch chi ddefnyddio’ch buddion cyn eich oedran pensiwn arferol, byddan nhw’n cael eu gostwng yn actiwaraidd i gymryd y taliad cynnar i ystyriaeth.

Bydd y gostyngiad sy’n cael ei gymhwyso yn unol â’r Rheoliadau yn dibynnu ar eich oedran ymddeol, y dyddiad yr ymunoch chi â’r gronfa, eich gwasanaeth ac unrhyw ddulliau diogelu Rheol 85 Mlynedd sydd efallai’n berthnasol i chi. I gael rhagor o wybodaeth am y Rheol 85 Mlynedd, edrychwch ar y ffeithlen.
Mae’r Gostyngiadau Canrannol perthnasol i’w gweld yn y tabl yma::

 

Gostyngiadau Canrannol %

Gostyngiad yn y Grant Ymddeol (%)

Nifer y blynyddoedd yn gynnar

Dynion a Menywod

Dynion a Menywod

0

0%

0%

1

4.9%

1.7%

2

9.3%

3.3%

3

13.5%

4.9%

4

17.4%

6.5%

5

20.9%

8.1%

6

24.3%

9.6%

7

27.4%

11.1%

8

30.3%

12.6%

9

33.0%

14.1%

10

35.6%

15.5%

11

39.5%

 Db/B

12  41.8%   Db/B
13  43.9%   Db/B

Mae'r ffactorau yma'n berthnasol o 3 Gorffennaf 2023 ymlaen.

Ymddeol yn hwyr

Os parhewch chi i weithio y tu hwnt i’ch Oedran Pensiwn Arferol, fe gewch chi aros yn y cynllun a pharhau i gronni buddion pensiwn. Bydd eich buddion yn cael eu cynyddu ar gyfer y cyfnod rhwng eich oedran pensiwn arferol a’r dyddiad y byddwch chi’n eu defnyddio.

Ymddeol Hyblyg

Os ydych chi dros 55 oed, mae modd i chi ddefnyddio’ch pensiwn a pharhau i weithio os ydych chi’n lleihau nifer eich oriau gwaith neu’ch graddfa. Rhaid i’ch cyflogwr gytuno i hyn a bydd gydag ef ei bolisi ei hun ynglŷn â nifer yr oriau bydd rhaid i chi’u gweithio a chael gafael ar eich buddion. Os oes diddordeb gyda chi yn yr opsiwn yma, bydd angen i chi siarad â’ch adran Adnoddau Dynol i ddechrau.

Os defnyddiwch chi eich buddion o dan Ymddeol Hyblyg cyn yr oedran pensiwn arferol, yna, gall gostyngiadau actiwaraidd fod yn berthnasol.

Dileu Swydd

Os ydych chi’n gadael oherwydd bod eich swydd wedi cael ei dileu, rydych chi’n 55 oed neu’n hŷn na hynny, ac rydych chi wedi bod yn aelod o’r cynllun ers o leiaf 2 flynedd, bydd eich pensiwn yn cael ei dalu ar unwaith heb unrhyw ostyngiadau am dalu’n gynnar.

Os ydych chi wedi bod yn aelod o’r cynllun am lai na 2 flynedd ar adeg dileu eich swydd, byddwch chi dim ond â’r hawl i gael ad-daliad o’r cyfraniadau rydych chi wedi’u talu/trosglwyddo i ddarparwr pensiwn arall.

I gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch gopi o’r ffeithlen Ymddeol Hyblyg , neu gysylltu â’r Gronfa Bensiwn.

Tudalennau yn yr adran yma