Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Partneriaid

c

Actiwari’r Cynllun - Aon Hewitt Limited

 

Prif rôl yr actiwari yw rhoi gwybodaeth i’r gronfa am ei ymrwymiadau a’r ffordd orau i gwrdd â’r ymrwymiadau hyn. Bydd y broses o brisio’r gronfa’n digwydd bob tair blynedd sy’n galluogi’r actiwari i gyfrifo’r dyledion yn erbyn asedau’r gronfa. Bydd yr actiwari yna’n argymell cyfraddau cyfrannu addas i gyflogwyr i helpu i osgoi unrhyw ddiffygion yn y dyfodol.

Penodwyd Hewitt fel actiwari’r cynllun ym mis Hydref 2003.

Rheolwyr y Gronfa

Cyfrifoldeb Rheolwyr y Gronfa allanol, a benodwyd gan y Gronfa, yw buddsoddi asedau’r Gronfa Bensiwn. Rhoddir gorchmynion a thargedau perfformiad penodol i Reolwyr y Gronfa, sy’n cael eu monitro gan Banel Buddsoddiadau Rhondda Cynon Taf mewn cyfarfodydd a gynhelir bob tri mis.

Baillie Gifford Rheoli Asedau

 

Mae Baillie Gifford, a sefydlwyd ym 1908, yn bartneriaeth rheoli buddsoddiadau yng Nghaeredin.

Fe’u penodwyd gan y gronfa i reoli ecwiti byd-eang yn 2005, ac erbyn hyn mae ganddynt ddau orchymyn ecwiti ar wahân

BlackRock Rheoli Buddsoddiadau 

 

Mae BlackRock yn un o’r cwmnïau rheoli asedau uchaf yn y byd, ar draws ystod eang o asedau buddsoddi.

Fe’u penodwyd i orchymyn ecwiti’r DU gan y gronfa yn 2010.

F & C Rheoli

Mae F&C yn brif gwmni rheoli asedau ac yn awdurdod blaenllaw ynghylch buddsoddiadau cyfrifol.  

Mae eu perthynas â’r gronfa yn deillio’n wreiddiol o 1994 ac maent yn rheoli gorchmynion bond byd-eang ar hyn o bryd.

ING Eiddo Tirol

 

ING yw un o’r rheolwyr eiddo tirol mwyaf yn y byd, gyda’i wreiddiau yn yr Iseldiroedd. Fe’u penodwyd i’r gronfa yn 2007 i reoli gorchymyn eiddo’r DU ac Ewropeaidd.

Invesco Perpetual

Mae Invesco Perpetual yn gwmni buddsoddi yn Henley-on-Thames. Eu pennaeth yw Neil Woodford, un o’r rheolwyr mwyaf ei barch yn y diwydiant. Fe’u penodwyd yn 2010 i reoli gorchymyn ecwiti’r DU ar gyfer y gronfa.

Legal & General Rheoli Buddsoddiadau

Mae Legal & General - Rheoli Buddsoddiadau’n un o brif reolwyr buddsoddi, ac yn un o’r rheolwyr olrhain mynegai’r farchnad stoc mwyaf yn y byd. Fe’u penodwyd gan y gronfa i reoli gorchymyn ecwiti/bond goddefol byd-eang yn 2010.

Newton Rheoli Buddsoddiadau

Mae Newton yn brif gwmni buddsoddi, a adnabyddir orau am ei ddull buddsoddi thematig arbennig. Maent wedi rheoli gorchymyn ecwiti byd-eang uchel ei berfformiad ar gyfer y gronfa ers 2008.

State Street

Mae State Street, a leolir yn yr UD, yn un o’r prif ddarparwyr gwasanaethau ariannol i fuddsoddwyr sefydliadol. Mae Slate Street yn darparu gwasanaeth mesur gwarchodaeth a pherfformiad ar gyfer Cronfa Bensiwn RhCT.

Swyddfa Archwilio Cymru

Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal yr archwiliad blynyddol o tua £20 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl yng Nghymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian.

Prudential - Darparwr CGY

 

Penodwyd Prudential fel darparwr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) y gronfa yn 2002, ac fel prif ddarparwr CGY Llywodraeth Leol, maent yn cydweithio’n agos gyda’n Hadran Bensiynau i sicrhau bod aelodau’n ymwybodol o’u hopsiynau i ychwanegu at eu darpariaeth pensiwn gyfredol.