Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ydy fy nheulu wedi'i ddiogelu?

Os byddwch chi'n marw cyn i'r budd gohiriedig gael ei dalu, bydd grant marwolaeth, gwerth 5 gwaith yn fwy na'r pensiwn gohiriedig i'w dalu.

Rydych chi'n gallu mynegi dymuniad ynglŷn ag i bwy yr hoffech chi i unrhyw grant marwolaeth gael ei dalu trwy lenwi a dychwelyd ffurflen manylion eich dymuniadau mewn perthynas â'r Grant Marwolaeth.

Gallwch chi enwebu unrhyw un i dderbyn y grant marwolaeth - fodd bynnag, dydy'r Gronfa ddim wedi'i rhwymo'n gyfreithiol gan eich enwebiad ac mae'n cadw disgresiwn llwyr ynghylch pwy sy'n derbyn taliadau, ond bydd yn ystyried eich dymuniadau.

Pensiwn Goroeswyr

Yn ogystal â hynny, bydd pensiwn sy'n daladwy i'ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy'n cyd-fyw drwy gydol ei oes/hoes.

Pensiwn Plant

Os oes plant gyda chi sydd o dan 18 oed (neu sydd o dan 23 oed sy'n cael addysg amser llawn o hyd) ar ddyddiad eich marwolaeth, bydd pensiwn yn daladwy cyhyd â'u bod yn gymwys.

Darllenwch y llyfryn am y cynllun am ragor o wybodaeth ynglŷn â chyfrifo'r buddion yma.