Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Daeth y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data i rym ar 25 Mai 2018. O dan y rheoliadau newydd yma, mae Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf yn Rheolwr Data. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n storio, cadw a rheoli eich data personol yn unol â'r gofynion statudol er mwyn ein galluogi ni i weinyddu'ch pensiwn.  Er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein dyletswyddau, mae'n ofynnol i ni rannu'ch gwybodaeth gyda chyrff penodol, ond dim ond mewn rhai amgylchiadau y bydd hynny.  Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am y data rydyn ni'n eu cadw a'r hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'r data? Edrychwch ar ein Hysbysiad Preifatrwydd llawn drwy glicio yma.

Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hefyd wedi'i ddosbarthu i'n Cyflogwyr Cronfa sy'n amlinellu sut y bydd data'n cael eu rhannu rhyngddyn nhw a'r Gronfa.

Os oes cwestiynau gyda chi ynglŷn â sut mae'r gronfa yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni.

Cadw Data

Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag sydd ei hangen i gyflawni'r dibenion ar gyfer ei chasglu.  Rhaid inni gadw rhai cofnodion oherwydd naill ai mae gyda ni rwymedigaeth statudol i wneud hynny neu mae angen yr wybodaeth arnon ni i allu ymdrin â chwestiynau a allai godi ynghylch cyfrifo'r buddion wedi'u talu yn y gorffennol.  Mae Polisi Cadw Data'r Gronfa cronfeydd y mae modd ei gyrchu yma yn nodi'r mesurau sydd wedi'u mabwysiadu gan Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf.