Gallwch adael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar unrhyw adeg trwy roi rhybudd ysgrifenedig i’ch cyflogwr. Bydd y dewis i adael y Cynllun yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod talu y gwnaethoch chi’ch cais ynddo, oni bai fod eich llythyr hysbysu’n nodi dyddiad diweddarach na’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad. Da o beth fyddai trafod eich dewisiadau gyda’r Llinell Gymorth Pensiynau cyn gadael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Dyma rai pwyntiau y dylech chi eu hystyried:
- Gall bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gostio llai na rydych chi’n disgwyl. Os ydych chi’n talu trethi, byddwch chi’n cael gostyngiad yn y dreth ar eich cyfraniadau.
- Bydd eich cynllun yn darparu incwm ymddeol diogel i chi ar gyfer y dyfodol, yn annibynnol ar brisiau cyfranddaliadau a phrisiau cyfnewidiol y farchnad stoc.
- Gallwch ddewis cyfnewid rhan o’ch pensiwn am gyfandaliad di-dreth pan fyddwch chi’n ymddeol.
- Os byddwch chi’n dewis gadael y Cynllun, byddwch chi’n colli budd y cyfraniadau sylweddol a wneir gan eich cyflogwr.
Mae’r cynllun yn darparu pecyn ardderchog o fuddion, nid yn unig i chi, ond i’ch teulu hefyd:
- Yswiriant bywyd am ddim o’r eiliad y byddwch chi’n ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a chyfandaliad o dair blynedd o gyflog os byddwch chi’n marw tra’r ydych chi yn y gwaith.
- Pensiynau ar gyfer eich gŵr, gwraig, partner sifil cofrestredig neu bartner sy’n cyd-fyw ac i blant cymwys os byddwch chi’n marw yn y gwaith neu’n marw ar ôl gadael gyda hawl i dderbyn pensiwn.
- Cewch eich diogelu hefyd os byddwch chi’n ymddeol yn gynnar oherwydd salwch parhaol, diswyddo neu arbediad effeithlonrwydd busnes.
Os byddwch chi’n dewis gadael y cynllun cyn pen tri mis o ymuno:
Byddwch chi’n cael eich trin fel rhywun sydd heb fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn ystod y cyfnod hwnnw, ond byddwch yn cael eich ystyried fel rhywun sydd wedi dewis gadael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Bydd y cyfraniadau a dalwyd gennych chi’n cael eu had-dalu gan eich cyflogwr.
Os byddwch chi’n dewis gadael y cynllun ar ôl tri mis
Ond cyn pen dwy flynedd – byddwch chi’n cael ad-daliad o’ch cyfraniadau heb dreth, a brosesir gan y Gronfa Bensiwn.
Os byddwch chi’n gadael y cynllun ar ôl dwy flynedd o wasanaeth, bydd yr un dewisiadau ar gael i chi ag a nodwyd yn yr adran ‘gadael cyn ymddeol’. Serch hynny, nodwch na fydd modd i chi gael y buddion pensiwn hyd nes i chi adael eich cyflogaeth.
Cliciwch yma am y Ffurflen Eithrio. Ddylech chi DDIM llenwi datganiad eithrio cyn dechrau’ch swydd
Oes modd i mi ail-ymuno â’r CPLlL yn nes ymlaen?
Os byddwch chi’n dewis gadael unwaith, gallwch ail-ymuno â’r CPLlL ar unrhyw adeg.
Efallai y byddai’n werth cael cyngor ariannol annibynnol cyn i chi ddewis gadael y CPLlL.