Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Beth sydd angen i mi ei wneud cyn ymddeol?

Beth sydd angen i mi ei wneud cyn ymddeol?

Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth ymarferol i chi ei hystyried cyn ymddeol.

Alla i fforddio ymddeol?

Bob blwyddyn, byddwn yn anfon datganiad buddioch i’ch cyfeiriad cartref, yn darparu gwybodaeth werthfawr am faint eich pensiwn a’r arian parod di-dreth y gallwch ddisgwyl eu derbyn pan fyddwch yn ymddeol.

Dylech ystyried faint o gyfandaliad di-dreth yr ydych chi am ei gymryd wrth ymddeol, er mwyn i’r penderfyniad fod yn haws pan fyddwch chi’n derbyn eich pecyn ymddeol. Er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir ar gyfer eich amgylchiadau, gallai fod yn syniad cael Cyngor Ariannol Annibynnol.

Faint o rybudd sy’n rhaid i mi ei roi?

Dylech drafod eich dyddiad ymddeol a natur eich ymddeoliad gyda’ch cyflogwr cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod eich buddion pensiwn yn cael eu talu ar amser.

Yna, bydd eich cyflogwr yn hysbysu’r Gronfa Bensiwn a bydd y pecyn ymddeol yn cael ei anfon atoch cyn gynted â phosibl.

A gaf i amcangyfrif o’m buddion?

Bydd cyfrifiad cywir a therfynol yn cael ei wneud ar ôl derbyn eich manylion cyflog terfynol gan eich cyflogwr. Dim ond ar ôl iddynt wneud y taliad cyflog/tâl terfynol y gellir gwneud hyn, a chyfrifo’ch cyflog terfynol gwirioneddol wedi hynny.

Mae eich datganiad buddion blynyddol yn darparu gwybodaeth am y buddion y mae gennych chi hawl i’w derbyn.

Ydw i wedi cysylltu â’m holl ddarparwyr pensiwn eraill?

Dylech gysylltu â’ch darparwr(wyr) pensiwn arall(eraill) i’w hysbysu eich bod ar fin ymddeol ac i gasglu gwybodaeth am werth eich cronfeydd pensiwn.

Os ydych chi’n cyfrannu at drefniant Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol mewnol, gallech ofyn i Adran Cyflogres eich cyflogwr atal eich taliadau Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol fis cyn i chi ymddeol, neu fel arall efallai y bydd oedi cyn talu’ch buddion o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Yw’r holl dystysgrifau perthnasol yn barod gen i?

Cyn i’r Gronfa allu prosesu taliad eich buddion pensiwn, mae’n rhaid dilysu’ch tystysgrifau. Trefnwch i gael eich tystysgrifau gwreiddiol neu gopïau ardystiedig yn barod gan y bydd yn rhaid i chi eu cyflwyno gyda’ch opsiynau ymddeol.

Mae’r tystysgrifau sy’n rhaid i chi eu darparu yn cynnwys:

  • Tystysgrif Geni;
  • Tystysgrif Geni Priod / Partner Sifil / Partner sy’n Cyd-fyw (os yn berthnasol);
  • Tystysgrif Priodas / Datganiad Partneriaeth Sifil (os yn berthnasol);
  • Archddyfarniad Absoliwt / Tystysgrif Diddymiad Partneriaeth Sifil (os yn berthnasol);
  • Tystysgrif Marwolaeth Priod / Partner Sifil (os yn berthnasol)

Bydd yr holl dystysgrifau gwreiddiol yn cael eu dychwelyd ar unwaith.

Hysbysiad gan eich cyflogwr

Dim ond ar ôl derbyn hysbysiad priodol gan eich cyflogwr yn cadarnhau eich gwasanaeth, cyflog terfynol a’r rheswm eich bod yn gadael y bydd eich ymddeoliad yn cael ei brosesu.

Dim ond ar ôl i’ch cyflog terfynol gael ei gyfrifo’n derfynol gan yr adran gyflogres y gall cyflogwyr ddarparu’r manylion hyn. Gall hyn achosi rhywfaint o oedi cyn talu eich buddion ymddeol.

Y Pecyn Ymddeol

Ar ôl derbyn y wybodaeth hon gan eich cyflogwr, bydd eich buddion pensiwn yn cael eu cyfrifo a byddwch yn derbyn eich pecyn ymddeol. Byddwch yn cael gwybod beth yw gwerth eich buddion pensiwn a chewch y dewis i drosi rhywfaint o’ch pensiwn er mwyn cael cyfandaliad mwy. Gofynnir i chi hefyd gadarnhau eich statws priodasol ac a ydych am ddiweddaru eich ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth.

Dylech ddarparu’r wybodaeth ganlynol ar ffurf tystysgrifau gwreiddiol neu gopïau ardystiedig:

  • Manylion banc (y cyfrif y bydd y pensiwn ac unrhyw gyfandaliad, os o gwbl, yn cael eu talu iddo;
  • Tystysgrif Geni Priod / Partner Sifil / Partner sy’n Cyd-fyw (os yn berthnasol);
  • Tystysgrif Priodas / Datganiad Partneriaeth Sifil (os yn berthnasol);
  • Archddyfarniad Absoliwt / Tystysgrif Diddymiad Partneriaeth Sifil (os yn berthnasol);
  • Tystysgrif Marwolaeth Priod / Partner Sifil (os yn berthnasol)

Bydd angen i chi ddarparu manylion unrhyw fuddion pensiwn eraill y mae gennych chi hawl i’w derbyn (neu fuddion rydych chi eisoes yn eu derbyn), er mwyn gallu cynnal profion yn erbyn eich Lwfans Oes.

Ni fydd eich buddion yn cael eu rhyddhau tan i chi gwblhau a dychwelyd y datganiad hwn i’r Gronfa Bensiwn